P-04-652 Android ac iOS, Cymraeg yn yr 21ain Ganrif?

Manylion:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Google ac Apple i ddatblygu fersiwn Gymraeg o'u systemau gweithredu

Gwybodaeth ychwanegol

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r Gymraeg wedi cael llawer mwy o gynrychiolaeth mewn busnesau, ysgolion, prifysgolion, cynghorau lleol ac awdurdodau cyhoeddus eraill; mae hyn wedi arwain at fwy o ddefnydd o'r Gymraeg mewn gweithgareddau bob dydd o ran siaradwyr Cymraeg, ond mae angen adeiladu ar y cynnydd hwn er mwyn sefydlogi a thyfu nifer y siaradwyr.

Fel hyn, gallai defnydd ffurfiol bob dydd o'r Gymraeg gael ei weld fel llwyddiant ond mae'r defnydd anffurfiol bob dydd o'r Gymraeg yn fwy o broblem.  O ran twf dwfn mewn iaith, ni chaiff gwybodaeth ei hannog drwy ddefnydd ffurfiol.  Er mwyn ymdrin â'r mater hwn byddai'n ddoeth rhoi yr un pwysau a chyflwyno yr un cytundebau ar Google ac Apple â'r hyn a gyflwynwyd i Microsoft i ddatblygu gweithrediad Cymraeg o OS ac iOs android yn y drefn honno.

Mae defnydd anffurfiol yn brawf o iaith fyw.

Prif ddeisebydd:  Merlyn Cooper

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 6 Hydref 2015

Nifer y deisebwyr:75  llofnod ar lein